BMS World Mission

Disgwyliwch bethau mawr?

Priodolir y geiriau enwog ‘Ymgeisiwch beth mawr dros Dduw. Disgwyliwch bethau mawr gan Dduw’ i sylfaenydd BMS, William Carey. Daeth y geiriau'n fyw i gannoedd o genhadon ar hyd y blynyddoedd wrth iddynt wasanaethu gyda BMS. Dyna yn wir yw profiad y cwpl o ganolbarth Cymru, Colin a Rosie Davies, sydd wedi mentro fel gwirfoddolwyr BMS i Kolkata yn Yr India.

 

Freeset making bags
Ychydig a wyddai’r ddau cyn mynd beth fydden nhw’n ei wneud yno. Roeddent wedi clywed yr alwad i fynd a phenderfynwyd eu hanfon i weithio gyda Freeset, elusen sydd yn rhoi cyfleodd newydd i ferched yn ardal rhyw mwyaf adnabyddus Kolkata i ennill bywoliaeth gyda pharch ac urddas trwy wneud bagiau jiwt masnach deg. Ceir rhagor o wyboadaeth am Freeset ar y wefan www.freesetglobal.com.

 

Pan gyrhaeddodd Colin a Rosie Kolkata doedden nhw ddim yn gwybod beth yn union fyddai eu rôl ond ar ôl siarad gyda’r bobl yn Freeset gwelsant yn amlwg gynllun Duw ar eu cyfer. Roedd y wraig sydd yn gyfrifol am y feithrinfa wedi dychwelyd adref i’r DG am chwech wythnos ac roedd angen rhywun i oruchwylio’r feithrinfa am y cyfnod hwnnw. Roedd y person oedd yn gyfrifol am gynnal a chadw hefyd wedi mynd gartref i Seland Newydd ac felly cafwyd bod sgiliau a phrofiad Colin a Rosie yn ddelfrydol i’r swyddi hyn.

 

 

Dywed Colin a Rosie ei bod hi wedi bod yn brofiad ardderchog bod yno yn cyfarfod â gwahanol bobl a chlywed pob math o hanesion rhyfeddol. Mae Duw yn gwneud pethau mawr yn hanes Colin a Rosie. Ydyn ni’n barod i fentro mewn cenhadaeth a disgwyl pethau mawr gan Dduw?