Ewch
A ydych chwi erioed wedi ystyried mynd tramor i wneud gwaith cenhadol? Wedi gofyn erioed ai dyma beth sydd gan Dduw ar eich cyfer? Wedi holi beth mae Ef am i chi wneud yn eich blwyddyn gap ... neu yn dymor byr... neu ar gyfer gweddill eich bywyd?
Mae Duw yn gwneud pethau rhyfeddol yn ei fyd. Mae Ef am i chwi gael rhan ynddo. Dylai pob dilynwr i Iesu fod yn ymwneud â chenhadaeth fyd-eang. Mae'n gyffrous bod Duw yn dewis defnyddio pobl gyffredin fel chwi i wneud pethau anghyffredin gydag Ef. Fe welwch fywydau'n cael eu newid gan gariad Crist - a oes yna unrhyw ffordd well o ddefnyddio eich amser, eich doniau a'ch profiad?
Archwiliwch y tudalennau hyn i weld y ffyrdd gwahanol o wasanaethu dramor gyda BMS. Gadewch i Dduw newid eich sefyllfa fel y mae. Bydd yn siwr o fod yn her – symud allan o'ch byd cysurus, dysgu pethau newydd a gwneud pethau mewn ffyrdd gwahanol – ond fe'i cewch yn brofiad gwerth chweil. Bydd Duw yn gweithio trwoch chwi ond fe fydd hefyd yn gweithio ynoch chwi i newid eich bywyd chwithau yn ogystal.
